Ym mis Ionawr 2021, rhedodd Equal Education Partners raglen Global Teaching Labs yng Nghymru MISTI ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae rhaglen Global Teaching Labs yng Nghymru MISTI yn rhaglen unigryw o effeithiol a thrawsnewidiol, gan ddod â hyfforddwyr STEM arbenigol o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd staff ar draws Cymru.
Trwy’r fenter bartneriaeth hon, nod Llywodraeth Cymru, MIT ac Equal Education Partners yw gwella ymgysylltiad â phynciau STEM trwy archwilio materion y byd go iawn a grymuso dysgwyr i ymdrechu i gyflawni eu potensial llawn yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Cefnogodd y 18 hyfforddwr a gymerodd ran o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) a Iâl-Prifysgol Genedlaethol Singapore (Yale-NUS) yr ysgolion a cholegau trwy gyflwyno gwersi a gweithdai byw a rhai wedi’u recordio ymlaen llaw a thrwy cefnogaeth cyd-gwricwlaidd, allgyrsiol ac uwch-gwricwlaidd i’r holl ysgolion a cholegau a chymerodd rhan. Hefyd, mae’r deunydd a chafodd ei recordio wedi’i gasglu a’i ddefnyddio i ymestyn hirhoedledd y rhaglen a’r effaith dysgu gan rai o fyfyrwyr prifysgol STEM mwyaf talentog y byd. Gweithiodd yr hyfforddwyr a gymerodd ran
o bell, ar draws 8 parth amser, gyda 24 o ysgolion a cholegau a oedd hefyd yn ganolfannau ar gyfer ymgysylltu ag ysgolion eraill, colegau, sefydliadau lleol a rhanbarthol yn y sector Gwyddoniaeth a Thechnoleg, hybiau Rhwydwaith Seren, a sefydliadau eraill.
Cliciwch yma i ddysgu fwy.