Mae Global Teaching Labs Sefydliad Technoleg Massachusetts yng Nghymru nôl ar gyfer Ionawr 2022!

Global Teaching Labs 2022

Yn Equal Education Partners, rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu 12 addysgwr o Sefydliad Technoleg Massachusetts i Gymru ym mis Ionawr.

Mae’r rhaglen ddylanwadol hon, sydd yn cael ei arwain gal fyfywryr o un o sefydliadau addysgol gorau’r byd, yn dychwelyd i ddosbarthiadau Cymru am y bedwaredd flwyddyn yn 2022.

 

Beth yw GTL yng Nghymru?

Mae rhaglen Global Teaching Labs MISTI yng Nghymru yn un arbennig o ddylanwadol a thrawsnewidiol, gan ei bod yn gwahodd addysgwyr arbenigol STEM o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i ddosbarthiadau ac ystafelloedd athrawon ledled Cymru.

Drwy’r bartneriaeth hon, mae Llywodraeth Cymru, MIT ac Equal Education Partners yn gobeithio ehangu diddordeb mewn pynciau STEM drwy archwilio problemau sy’n ein effeithio yn y byd heddiw, ac i ysbrydoli dysgwyr i anelu’n uchel i gyflawni eu llawn botensial o fewn a thu allan i’r dosbarth.

 

Beth sydd ar gael?

Bydd addysgwyr o MIT yn cael eu lleoli mewn ysgolion a cholegau ar draws Cymru am dair wythnos rhwng y 4ydd – 28ain o Ionawr 2022. Mae’r cyfle hwn ar gael i bob ysgol a choleg Addysg Bellach drwy Gymru, felly cysylltwch os hoffech i’ch ysgol gymryd rhan.

Mae Global Teaching Labs MISTI yn galluogi ysgolion i fantensio ar gyfleoedd cyfoethogi STEM heb eu hail, o weithdai a dosbarthiadau meistr i brojectau amlbwnc unigryw a thiwtora 1-i-1 neu mewn grwpiau bychain. Mae sesiynau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad ar gael, yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer Dysgu Proffesiynol a Datblygu Cwricwlwm dan arweniad arbenigwyr o’r Scheller Teacher Education Program (STEP) yn MIT.

Yn Equal Education Partners, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu myfyrwyr MIT i Gymru ac i alluogi cyfleoedd dysgu rhyngwladol heb eu tebyg i ddysgwyr ar draws Cymru.

 

Sut alla i gymryd rhan?

Os ydych chi eisiau i’ch ysgol neu goleg fantesio ar y cyfle hwn gan ddarparu lle i un o’r deuddeg o fyfyrwyr MIT sy’n dod i Gymru ym mis Ionawr, cysylltwch â ni yn Equal Education Partners heddiw.

Am fwy o wybodaeth am Global Teaching Labs, cliciwch yma. Os ydych yn ysgol sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, llenwch y ffurflen hon.

 

Cysylltwch â ni

hello@equaleducationpartners.com

01554 777749 | 02920 697129