P'un a ydych yn ysgol gyda swyddi gwag tymor byr neu hir neu'n unigolyn sy'n edrych am yrfa mewn addysg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych
Maths i Oedolion Cymru
Rhaglen ddysgu oedolion Mathemateg arloesol
Beth oedd y Rhaglen Mathemateg i Oedolion Cymru
Ddim yn berson rhif? Gallwch ddibynnu ar Mathemateg i Oedolion Cymru i wella hyn!
Roedd Mathemateg i Oedolion Cymru yn rhan o Multiply, rhaglen wedi’i hariannu gan Lywodraeth y DU a oedd yn cynnig mynediad hawdd at gyrsiau Mathemateg yn rhad ac am ddim i gefnogi dysgwyr i wella dealltwriaeth o rifau mewn cyd-destunau bywyd go iawn. Nid dim ond ar gyfer pasio arholiadau mae meistroli Mathemateg; mae’n ymwneud â datgloi byd o bosibiliadau.
Roedd ein cyrsiau’n gynhwysol, hwyl ac addysgiadol yn grymuso’r dysgwyr, gan helpu i adeiladu hyder a sgiliau i gefnogi sawl agwedd bywyd pob dydd. roedd y cyrsiau ar agor i bawb a oedd yn 19 oed neu’n hŷn ac heb radd C mewn TGAU Mathemateg.
Er bod y Rhaglen Mathemateg i Oedolion Cymru wedi dod i ben, mae Equal wedi ymrwymo i gefnogi gwella cyrhaeddiad a hybu sgiliau ledled Cymru a thu hwnt. Cysylltwch â’r tîm i ddarganfod sut arall rydym yn helpu i wella addysg oedolion:
Awdurdodau Lleol lle roeddem yn cyflwyno'r Rhaglen Mathemateg i Oedolion Cymru
Darparodd Equal Education Partners gyrsiau o fewn llawer o Awdurdodau Lleol Cymru. Darganfyddwch fwy am yr hyn a gynigiwyd i gyfranogwyr mewn gwahanol feysydd:
Rhondda Cynon Taf
Amrywiaeth eang o gyrsiau Mathemateg i oedolion, ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, gan gynnwys sgiliau sy'n gysylltiedig â'r gwaith, cyrsiau cyfwerth â TGAU, sgiliau bywyd fel cyllid teuluol, a sgiliau i gefnogi dysgu Mathemateg eich plant.
Caerffili
Cyrsiau dysgu Mathemateg i oedolion wedi’u creu i gefnogi mewn amryw o gyd-destunau, gan gynnwys cefnogi plant gyda’u gwaith cartref a gwella sgiliau cyllid. roedd cyrsiau ar gael wyneb-yn-wyneb ac ar-lein.
Powys
Cyrsiau Mathemateg a ddatblygwyd ynghyd â StoriPowys i wella hyder rhieni gyda rhifau a'r gallu i gynnig cymorth gwell i blant gyda’u gwaith cartref.
Awdurdodau Lleol lle roeddem yn cyflwyno'r Rhaglen Mathemateg i Oedolion Cymru
Darparodd Equal Education Partners gyrsiau o fewn llawer o Awdurdodau Lleol Cymru. Darganfyddwch fwy am yr hyn a gynigiwyd i gyfranogwyr mewn gwahanol feysydd:
Casnewydd
Cyfres o gyrsiau Mathemateg a oedd yn adeiladu i fyny at ac yn cynnwys cymwysterau cyfwerth â TGAU. Roedd y cyrsiau'n helpu i wella hyder a chodi rhagolygon gyrfa.
Ceredigion
Darparu gwybodaeth am rifau i rieni i’w cefnogi i ddatblygu perthynas dda â Mathemateg.
Merthyr Tudful
Cynnig cefnogaeth marchnata i hyrwyddo cyrsiau gan sefydliadau partner ledled Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.