Beth yw Seren?

Seren yw menter flaenllaw Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi dysgwyr mwy galluog a thalentog mewn ysgolion a cholegau ar draws Cymru i gael mynediad at gyfleoedd addysg uwch o ansawdd yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
Mae Seren yn cynnwys y meysydd cymorth gwahanol canlynol i bobl ifanc ledled Cymru: Academi Seren, Sylfaen Seren, Seren International, a Chyn-fyfyrwyr Seren.

Mentrau wedi'u creu a'u cyflawni ar gyfer Seren

Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren

Wedi’i greu o ganlyniad i bandemig COVID-19, cofrestrodd menter Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Choleg Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen, dros 100 o ddysgwyr yn 2020 a 300 o ddysgwyr yn 2021. Yn 2022, mae Ysgol Haf Ar-lein Ryngwladol Seren yn cefnogi 400 o ddysgwyr ledled Cymru.

Partneriaeth Ysgolheigion Byd-eang Ifanc Seren-Yale (YYGS)

Ers 2018, trwy ysgoloriaeth ar y cyd a sefydlwyd rhwng Llywodraeth Cymru ac YYGS ym Mhrifysgol Iâl, mae 116 o ddysgwyr chweched dosbarth Cymru wedi mynychu rhaglen breswyl Ysgolheigion Byd-eang Iâl yn New Haven, UDA, neu ei rhaglen ar-lein.

Ysgoloriaeth Ysgol Haf Seren Harvard

Yn 2019, cefnogwyd 23 o ddysgwyr Seren i fynd i Ysgol Haf Harvard ar y campws ym Mhrifysgol Harvard yng Nghaergrawnt, Massachusetts, UDA.

Ychydig o ffigurau

12
Nifer y gwledydd a gynrychiolir gan ein hyfforddwyr ysgolion haf
566
o ddysgwyr sydd wedi'u cefnogi i fynychu ysgolion haf gyda'r prifysgolion gorau
18,000+
o oriau dysgu a gyflwynwyd trwy Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren yn 2021