Fel cyflogwr moesegol a chwmni â chymhelliant cymdeithasol, mae Equal wedi ymrwymo i drin ein holl weithwyr a dysgwyr yn deg, i sicrhau bod ein holl waith yn cael ei wneud gyda gwir ymdeimlad o bwrpas ac i sicrhau bod gan bopeth a wnawn effaith gadarnhaol bendant, gan gyfrannu’n sylweddol at y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt ac at genedlaethau’r dyfodol.

 

Rydym yn cael effaith gadarnhaol sylweddol trwy recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr proffesiynol addysgu rhagorol a thrwy alluogi dysgwyr i gael mynediad at gyfleoedd i ddatblygu heb eu hail.

Hefyd, mae’r mentrau canlynol yn ategu ein hymrwymiadau yn hynny o beth:
  1. Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol
  2. Cyflogwr Cyflog Byw
  3. Peilot Graddfeydd Moesegol Cymru ESC International
  4. Partneriaethau addysg uwch gyda phrifysgolion sy’n arwain y byd
  5. Nawdd ar gyfer mentrau ysgolion
  6. Diwrnod gwirfoddoli taledig i holl staff mewnol y swyddfa yn flynyddol – Community TeamWorks
  7. Mentrau codi arian – Boreau coffi ac ati